top of page
Search

TKBVOICE yn cynnal sgyrsiau ar-lein i gael eich barn o ran datblygu a'ch blaenoriaethau




Mae TKBVOICE yn hwb arloesedd digidol.


Mae ein gwefan a'n cyfarfodydd cymdeithasol wedi'u llunio i fod yn hawdd eu defnyddio ac yn adnodd cymunedol llawn deunydd a nodweddion.


Bu ein hymgyrch gymunedol #LoveTKB yn fodd i ddosbarthu taflenni a chardiau post i bob aelwyd a'u gosod ar bob man gwybodaeth yn y gymuned. Aethon ni hefyd lar-lein fel bod pobl hefyd yn gallu Anfon eu Cerdyn Post aton ni yn y modd rhwyddaf iddyn nhw.


Ym mids Ebrill, gweithiodd TKBVOICE mewn partneriaeth gyda Create Streets, menter gymdeithasol, a gyda'n gilydd, fe wnaethon ni greu map rhyngweithiol ichi allu ychwanegu eich sylwadau ynghylch yr hyn rydych chi'n hoffi neu ddim yn hoffi am y lle rydych chi'n byw, yn gweithio a threulio eich amser hamdden neu wyliau ynddo. ​ Dyma'r tro cyntaf i ap CREATE STREETS gael ei ddefnyddio erioed yng Nghymru, ac rydyn ni wrth ein bodd mai TKB ydy'r cyntaf i fentro. Darllenwch ein datganiad i'r wasg ynghylch hyn yma. ​ Wedi'r cyfnod ymgynghorol, buon ni'n dadansoddi'r sylwadau, a'r adborth ar y cardiau post a'n map rhyngweithiol o TKB, gan lunio adroddiad sy'n crynhoi'r hyn a gasglwyd. ​ Mae'r adroddiad hwn ar ein darganfyddiadau wedi'i ffurfio'n uniongyrchol gan eich sylwadau a'ch adborth chi, ac wedi'i ddefnyddio i lunio ein syniadau datblygol. ​ Rwan mae angen eich mewnbwn unwaith eto.


Pethau y gallwch chi barhau i'w gwneud:



 




3 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page