top of page

Cefnogwch Ni

Os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth lle rydych chi'n byw, rydych chi wedi dod i'r lle iawn.

Ariennir y prosiect Cysylltiadau Cymunedol  gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.  Mae'r Prosiect yn ymwneud â chysylltu pobl a chydweithio i wneud Towyn a Bae Cinmel y lle gorau y gall fod i fyw, gweithio, chwarae ac ymweld ag ef.    


Rydym wrthi’n chwilio am bobl i ymuno â Phartneriaeth Gymunedol TKBVOICE a fydd yn arwain ac yn siapio’r Cynllun Lle ar gyfer yr ardal, gan droi syniadau’n weithredu, cydweithio a gwrando ar bobl leol ac ymwelwyr â’r ardal.  
 

Rydym yn chwilio am bobl â gweledigaeth, a gweithredwyr – trigolion sydd eisiau gwneud gwahaniaeth, gweithredwyr cymunedol, pobl fusnes lleol, ac aelodau o’r sector gwirfoddol a chymunedol yn Nhowyn a Bae Cinmel sy’n gadarnhaol, ac yn uchelgeisiol, gyda pharodrwydd i wrando, clywed safbwyntiau gwahanol, a chydweithio a throi syniadau gwych yn weithredu!
 

Rydym yn annog pobl ifanc yn gadarnhaol i wneud cais ac wedi cadw dau le ar y Bartneriaeth Gymunedol ar gyfer pobl dan 25 oed.  Rhaid i chi fod yn 16 oed i wneud cais.

Bydd y Bartneriaeth Gymunedol yn cyfarfod yn fisol am hyd at 90 munud a bydd yn cael ei chynnal gan Gyngor Tref Tywyn a Bae Cinmel.  Wrth iddo ddatblygu, efallai y bydd sefydliad arall sy'n lletya yn dod i'r amlwg.  Mater i'r Bartneriaeth Gymunedol sy'n ymgysylltu â phobl leol ydy penderfynu ar hynny.
 

Cymeradwywyd cylch gorchwyl y Bartneriaeth yng nghyfarfod agoriadol y Bartneriaeth Gymunedol ar 7 Ebrill ac mae i'w weld yma. Cymerir yn ganiataol eich bod, trwy ddatgan diddordeb mewn ymuno â'r Bartneriaeth Gymunedol, yn derbyn ac yn addo cadw at yr amodau hyn.  Bydd cyfarfodydd yn gymysgedd o wyneb yn wyneb ac ar-lein yn dibynnu ar natur y busnes a’r amgylchedd ar y pryd.     


Os oes gennych ddiddordeb, cwblhewch y ffurflen ar-lein ar y dde.

​

Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw hanner nos, dydd Sul 22 Mai. Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried gan  bersonél o'r prosiect Cysylltiadau Cymunedol. 

 

Ni fydd Helen, ein Cydlynydd Cymunedol, yn ymwneud â'r broses gwneud penderfyniadau, nac ychwaith Clerc Cyngor Towyn a Bae Cinmel   Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 5yp, dydd Mawrth 24 Mai ynghylch ein penderfyniad.

​

Mae disgwyl i'r holl aelodau fynychu'r trydydd cyfarfod o'r Bartneriaeth Gymunedol ar 26 Mai, ar yr amser hwyrach o 1900, oherwydd ein digwyddiad ymgynghoriad cymunedoly diwrnod hwnnw. 

​

Os oes gennych chi gwestiynau neu os hoffech chi gael gwybod mwy cyn cyflwyno eich cais, cysylltwch â Helen, ein Cysylltydd Cymunedol ar 07713 997 075 neu info@tkbvoice.wales

Original on Transparent.png

Mynegiant o ddiddordeb

Cwblhewch y ffurflen hon a'i chyflwyno cyn hanner nos, dydd Sul 22 MaI

 

Ydych chi'n rhan o unrhyw grŵp cymunedol arall yn TKB?
Ar gyfer pa gategori ydych chi am gael eich ystyried?

Diolch am gyflwyno. Byddwn mewn cysylltiad.

Nid yw'r ffurflen hon yn derbyn cyflwyniadau ar ôl hanner nos 22/5/2022

bottom of page