top of page

Ynghylch

Mae TKBVOICE yn ofod cymunedol a rennir a gynhelir gan Gyngor Tref Tywyn a Bae Cinmel i gynhyrchu syniadau a chamau gweithredu i wella’r ardal ar gyfer y dyfodol mewn partneriaeth â phobl leol.


Mae Partneriaeth Gymunedol TKBVOICE yn gorff gwirfoddol, anstatudol sy'n cael ei bweru gan Wirfoddolwyr TKBVoice. Fe’i ffurfiwyd ddiwedd mis Mawrth 2022 yn dilyn ymgyrch gymunedol ar lawr gwlad i annog pobl leol i fynegi diddordeb mewn ymuno â’r bartneriaeth. Fe'i ehangwyd ym mis Mai 2022, yn dilyn yr etholiadau lleol, i gynnwys 4 aelod statudol. Fel yr aelodau gwreiddiol, fe'u dewiswyd trwy broses datgan diddordeb.

 

Nid siop siarad, na llwyfan gwleidyddol mo’r Bartneriaeth Gymunedol, mae’n ofod lle mae newid a gweithredu cadarnhaol yn digwydd gyda chefnogaeth pobl leol.

Mae Partneriaeth Gymunedol TKBVOICE am alluogi holl aelodau'r gymuned i rannu eu sylwadau, a chynnig eu syniadau ac atebion posib i genfogi cyfeiriad Tywyn a Bae Cinmel yn y dyfodol. Eich lle chi ydy o.   

Rol gychwynnol y Bartneriaeth oedd adnabod, cytuno a mynd i'r afael â blaenoriaethau trwy Gynllun Lle Cymunedol nawr a diwedd mis Mehefin, rôl y Bartneriaeth yw nodi, cytuno a mynd i’r afael â blaenoriaethau cymunedol trwy fabwysiadu Cynllun Lle Cymunedol a ddatblygwyd trwy broses o ymgysylltu ac ymgynghori â phobl leol ac ymwelwyr â’r ardal.

Wrth symud ymlaen, ein nod ydy sicrhau fod y Cynllun Lle Cymunedol Tywyn a Bae Cinmel yn trosi syniadau yn atebion a gweithredu sy’n sicrhau budd cymunedol diriaethol i Dywyn a Bae Cinmel.
 

Mae’r Prosiect Cysylltiadau Cymunedol wedi galluogi ffurfio’r Bartneriaeth, a’r ymgysylltu i gefnogi datblygiad y cynllun lle. Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, gyda chyfraniad ariannol gan Gyngor Tref a Chymuned Tywyn a Bae Cinmel.

​

Rydyn ni'n ddiolchgar am y gefnogaeth yma i alluogi inni sefydlu a rhoi cynllun inni adeiladu arno a'i ddatblygu gyda phobl leol.

 

Mudiad dan arweiniad y gymuned ydy TKBVOICE i lunio a gwella'r ardal, rwan ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Dewch inni lunio dyfodol Tywyn a Bae Cinmel gyda'n gilydd! 

Gossip Girl.jpg

Ein Gweledigaeth

Rydyn ni am ddatblygu'r lle rydyn ni'n galw adre yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan greu'r lle gorau posib trwy gyfuno adnoddau o amgylch ein cydweledigaeth a sbarduno rhanddeiliaid eraill i fuddsoddi yn nyfodol Towyn a Bae Cinmel gyda ni. 

Ein Cenhadaeth

Llunio dyfodol Towyn a Bae Cinmel gyda'n gilydd 

  • Rhoi llais i'r bobl wrth lunio ein dyfodol ar y cyd 

  • Ymgysylltu a gwrando ar drigolion, gan gynnwys plant a phobl ifanc

  • Croesawu a gwrando ar ymwelwyr a thwristiaid sy'n rhannu'r lle rydyn ni'n galw adre 

  • Datblygu cynllun lle ar gyfer Towyn a Bae Cinmel  

  • Gweithredu ar syniadau gwych 

TKBVOICE Volunteers evening 2.jpeg
Community Campaign.jpg

Ein Cenhadaeth

Mae'r Bartneriaeth Gymunedol yn cyfarfod yn fisol i ddatblygu'r Cynllun Lle a'r camau sy'n deillio o hyn. Mae'r cyfarfodydd hyn yn agored i'r cyhoedd. 


Rydyn ni'n cynnal digwyddiadau i gefnogi ein gweithgareddau ac yn eu hyrwyddo trwy ein cyfarfodydd cymdeithasol a'r wefan. 

 

Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi Newyddion TKBVOICE bob pythefnos i'n holl tanysgrifwyr. Rydyn ni hefyd yn hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau trwy bartneriaid cymunedol a busnes yn Nhowyn a Bae Cinmel. Rhestrir dyddiadau ein cyfarfodydd o dan digwyddiadau

Gadewch i ni Wneud Newid

Dyma rai ffyrdd y gallwch chi gyfrannu:

Yn Bersonol

500 Stryd Terry Francois
San Francisco, CA 94158

Ar-lein

Gwneud rhodd didynnu treth.

Dros y Ffôn

Mae'n hawdd cyfrannu all-lein hefyd.

Ffôn: 123-456-7890

bottom of page