top of page
Search

Darlleniad y Sul

Updated: May 18, 2022

Cerdd i TKB gan y Bardd Lleol: Carl Butler

TKB mae'n gymuned

Yma y daw gwerin Towyn a Bae Cinmel i weld

Y newyddion a'r gweithgareddau diweddaraf

Nid dim ond 'pennau parablus' ydy'r rhain.


Er y gall amheuwyr rhoi waedd o goelgarwch

Mae'r fforwm hwn yn gyfle gwych

I hyrwyddo'ch achos, mewn undod

Bydd hyn yn hwb inni i gyd.


Busnesau lleol yn ymgysylltu'n hapus

Gyda gonestrwydd ac uniondeb

TKB Y BLOG bywiog

Lle lledaenir y newyddion diweddaraf.


Mae llais newid ar yr awel

Mae'n byrlymu tros foroedd tonnog

Nid neges mewn potel ydy hon, mae yma i bawb ei gweld

Yn TKB ceir llafar i'ch llais.


 

Mae Carl Butler yn lleol i Dywyn a Bae Cinmel ac yn fardd. Cyhoeddir ei lyfr barddoniaeth, My Black Swan Calling gan wasg Elizabeth River a’i olygu gan Amanda Jayne Benton. Mae'r llyfr ar gael ar Amazon yn glawr meddal neu Kindle i'w lawrlwytho a gellir ei archebu o'r rhan fwyaf o siopau llyfrau. Gallwch ddod o hyd i'w dudalen farddoniaeth ar Facebook https://www.facebook.com/myblackswancallingpoetry


Os hoffech gyfrannu cerdd, lluniau neu bost blog diddorol i Flog TKB, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cysylltwch â Helen: info@tkbvoice.wales


7 views0 comments
bottom of page