top of page
Search

Cyfarfod â'r Tîm y tu ôl i TKBVOICE

Mae TKBVOICE yn cael ei alluogi gan Gyngor Tref Towyn a Bae Cinmel, diolch i gyllid gan Gronfa Cadernid Cymunedol Llywodraeth y DU. Rhwng rwan a diwedd mis Mehefin, mae’r prosiect Cysylltiadau Cymunedol yn cael ei gefnogi gan dîm o ymgynghorwyr.

Mae Stiwdio Chris Jones yn arwain tîm o ymgynghorwyr seiliedig ar le; fo ydy rheolwr cyffredinol y prosiect ac mae’n arwain y broses cynllun lle. Mae Chris Gentle, Owen Davies a Fiona Bennett yn cefnogi Chris gyda’u mewnwelediadau a’u harbenigedd technegol.


Mae Helen Wilkinson o Wilkinson Byes Consultancy yn arwain ymgysylltiad cymunedol y prosiect a hi yw Cysylltydd Cymunedol a Rheolwr Prosiect Digidol TKBVOICE. Mae Sian Ellis-Thomas o SETDesign wedi gweithio gyda Helen i ddatblygu hunaniaeth y brand a’r llwyfan digidol a chynnig ei llygad marchnata llym.

Fel tîm, rydym yma i alluogi’r gymuned i gymryd rhan a siapio datblygiad y cynllun lle, gan droi syniadau’n weithredu.


Ymdrech Cymunedol

O’r cychwyn cyntaf, gwirfoddolwyr sydd wedi gyrru TKBVOICE – pobl yn y gymuned leol yn camu i’r adwy i wneud gwahaniaeth. Rydym hefyd wedi cael cymorth gan lawer o grwpiau, sefydliadau a busnesau. Diolch i bawb am eich cefnogaeth – rydych i gyd yn rhan o’r tîm sy’n rhan o TKBVOICE.


Yn dilyn ymgyrch gymunedol a phroses mynegi diddordeb agored, mae Partneriaeth Gymunedol TKBVOICE bellach wedi ffurfio.


Mae gennym ni saith o bobl anhygoel yn ymuno â ni.


Heb fod mewn unrhyw drefn blaenoriaeth, dewch i gyfarfod â’r tîm arwain a fydd yn cydweithio â’n hymgynghorwyr a Chyngor Tref Towyn a Bae Cinmel i amlygu TKBVOICE a lleisiau pobl leol wrth i ni, gyda’n gilydd, ddatblygu lle gyda chyfranogiad ac ymwneud pobl leol, tra hefyd yn gwrando ar a chroesawu barn ymwelwyr a phobl ar eu gwyliau sy'n cyfrannu at amrywiaeth ac economi'r ardal.

Cyfarfod ag aelodau'r Bartneriaeth Gymunedol

Dyma aelodau'r Bartneriaeth Gymunedol:

Mae Stanley Barrows wedi bod yn byw yn Nhowyn a Bae Cinmel ers bron i 40 mlynedd. Bu'n gwirfoddoli ac wedi bod yn gadeirydd dau grŵp lleol, grŵp Cymunedol Rhodfa Caer, sy'n trefnu digwyddiadau lleol a theithiau i drigolion lleol a hefyd grŵp Green Fingers sy'n gofalu am y berllan leol ac yn gwneud yr ardal yn fwy dymunol. Mae wedi gweithio yn Arriva ers 33 mlynedd, y rhan fwyaf ohono fel Rheolwr ar Dg Ngnaolfan Y Rhyl. Gyda'r profiad hwn o reoli, a'i weithgareddau cymunedol gwirfoddol yn yr ardal, mae Stan yn dod ag arweinyddiaeth, rheolaeth, a phrofiad a gwybodaeth datblygu cymunedol ar lawr gwlad i'r bartneriaeth.




Mae Jenny Beswick yn fam i ferch 21 oed ac yn fam faeth i ddau o bobl ifanc yn eu harddegau. Mae hi wedi byw ym Mae Cinmel ers 20 mlynedd a chyn hynny roedd yn rhedeg busnes campfa. Mae hi ymghlwm ag Eglwys Bae Cinmel, yn gwirfoddoli ar gyfer y Rhannu Dillad misol, a drefnir gan Home-Start Conwy ac ar hyn o bryd mae’n helpu i sefydlu grŵp gwirfoddol i gefnogi iechyd a lles wedi’i ysbrydoli gan gwrs coginio a maeth a gynhelir yn Nhŷ Cymunedol Rhodfa Caer. Mae hi eisiau gweld gwell defnydd o asedau cymunedol, mwy o weithgareddau i blant a phobl ifanc a mwy o rannu gwybodaeth ac adnoddau. Mae hi'n caru lle mae hi'n byw ac eisiau'i wneud yn lle gwych i fyw iddi hi, ei theulu, ei chymdogion a'r gymuned gyfan.




Mae Bill Darwin yn cadeirio Cymdeithas Chwaraeon a Hamdden Bae Cinmel a Thowyn, sy'n prydlesu ac yn rheoli Canolfan Hamdden Y Morfa. Mae gan y Gymdeithas hefyd brydles ar gyfer Lawnt Fowlio Bae Cinmel. Sefydlodd Bill Glwb Pêl-droed Bae Cinmel yn 2002, sydd ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer 160 - 200 o chwaraewyr (Genethod, Bechgyn, Merched, Dynion a'r Anabl) a sefydlodd y Clwb Ieuenctid Oedolion yn 2010 sy'n darparu ar gyfer 10-12 aelod dros 60 oed. Fo ydy cadeirydd Cymdeithas Gymunedol Bae Cinmel a Thowyn sydd â'r brydles ar gyfer y cae pêl-droed ar St. Asaph Avenue ac sy'n ei reoli. Mae ffyrdd stad Sandy Cove hefyd yn gyfrifoldeb yr elusen. Mae Bill wedi bod yn ymwneud ag ystod o grwpiau a chymdeithasau gwirfoddol eraill yn yr ardal a chyn hynny bu'n llywodraethwr yn Ysgol Y Foryd ac Ysgol Maes Owen.




 

Ein haelodau Busnes yw:

Mae Scott Griffin wedi byw ym Mae Cinmel ers iddo groesi ffin Pont Y Foryd ychydig cyn y pandemig ar ôl byw yn y Rhyl am 20 mlynedd. Dydy o erioed wedi edrych yn ôl! Mae'n rheolwr Peirianneg uchel ei gymhelliant ac yn arweinydd mewn technegau rheoli LEAN. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad ymarferol mewn amgylchedd gweithgynhyrchu gan gynnwys y maes modurol a chyfathrebu, mae wedi gweithio i fusnesau yng Ngogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr. Mae'n angerddol am y rôl y gall busnes ei chwarae i gefnogi cymunedau ac mae'n hyrwyddo newid trwy ymgysylltu a mentora. Mae’n credu mewn gwaith tîm, a grym pobl yn dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth.







Mae Denise Dale yn byw ym Mae Cinmel ac yn berchennog Baysville Coffee and Grill, busnes a lansiwyd ychydig cyn y pandemig. Cyn lansio Baysville, bu Denise (neu Nisey fel y mae'n fwyaf adnabyddus) yn rheolwr siop i Wilko yn y Rhyl am 15 mlynedd. Fel rheolwr, ymgymerodd â llawer o brosiectau, a rheolodd dros 40 o aelodau tîm. Dysgodd sgiliau amrywiol gan gynnwys rheoli pobl, arweinyddiaeth a datrys problemau ac roedd yn rhan o sefydlu AGB Y Rhyl, sydd bellach yn rhedeg yn llwyddiannus iawn. Mae hi'n angerddol am rôl cwmnïau annibynnol, a'r gymuned busnesau bach yn TKB i wneud gwahaniaeth i'r ardal.










Mae Adam Williams wedi bod yn Gyfarwyddwr Grŵp Hamdden Tir Prince ers tri degawd. Mae’r Grŵp wedi’i nodi fel y cwmni sy’n tyfu gyflymaf yng Ngogledd Cymru ers dwy flynedd, ac ymhlith y 10 cwmni FastGrowth50 gorau yng Nghymru. Mae’n berchen ar sawl busnes yn Nhowyn gan gynnwys Marchnad Tir Prince, marchnad fwyaf Gogledd Cymru, a Thrac Rasio Tir Prince, ei brif fusnes yn Nhowyn gyda dros 2 filiwn o ymwelwyr y flwyddyn. Mae ei fusnesau yn cyflogi dros 200 o bobl trwy safleoedd Towyn yn unig. Mae Adam yn frwd dros ddatblygu Towyn a Bae Cinmel mewn ffordd sy'n gweithio i bobl leol a'r economi ymwelwyr. Mae ei deulu wedi bod yn ymwneud â thwristiaeth yng Ngogledd Cymru ers 1956.




 

Ein haelod Person Ifanc yw:

Mae Alex Bytheway wedi byw yn Nhowyn a Bae Cinmel ar hyd ei oes, ac eithrio wrth gwblhau ei radd mewn Cemeg Feddyginiaethol a Biolegol ym Mhrifysgol Caer Efrog. Dychwelodd i'w dref enedigol ar ôl graddio ac ar hyn o bryd mae'n gweithio fel Technegydd Gwyddoniaeth mewn addysg. Gyda diddordeb mewn ffotograffiaeth ers ei arddegau, dechreuodd wneud sesiynau tynnu lluniau proffesiynol, fel ffotograffydd bywyd nos a digwyddiadau tra'n y Brifysgol ac mae’n cynnal gyrfa ffotograffiaeth llawrydd. Mae ganddo hefyd sgiliau dylunio graffeg, ac mae'n awyddus i ddefnyddio'r sgiliau hyn ynghyd â'i ffotograffiaeth yn wirfoddol i helpu i godi proffil TKB. Mae gan Alex farn am y ffordd y gellir gwella’r ardal ac mae’n awyddus i ddefnyddio ei farn a’i sgiliau i helpu cyrraedd ac apelio at bobl ifanc, sy’n byw yn yr ardal, ac sy’n ymweld.


Gofynnwyd i bob un o’r aelodau ysgrifennu blog byr am yr hyn â’u hysgogodd i gamu i’r adwy, eu gobeithion ar gyfer y dyfodol, a sut maen nhw'n bwriadu gweithio gyda chi a bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf.


Ym mis Mai, ar ôl yr etholiadau lleol a phroses mynegi diddordeb agored arall, bydd pedwar cynghorydd yn ymuno â’r Bartneriaeth Gymunedol – tri o Dowyn a Bae Cinmel ac un Cynghorydd Sir a pherson ifanc arall.


Os ydych rhwng 18-25 (neu’n adnabod rhywun yn yr oedran hwnnw) gyda diddordeb bod yn un o’n haelodau, cysylltwch â Helen ar info@tkbvoice.wales




6 views0 comments
bottom of page