top of page
Search

Cardiau Post Gyda Phwrpas

Updated: Apr 1, 2022

Mae ein cardiau post #LoveTKB wedi’u cynllunio’n benodol i ysbrydoli’r positifrwydd sy’n llifo pan fyddwch ar wyliau. Er bod y syniad ar gyfer ein hymgyrch gymunedol #LoveTKBY wedi’i wreiddio yn y gorffennol – gan dynnu ar y cerdyn post montage ffotograffig traddodiadol sy’n nodweddiadol o drefi glan môr – mae hefyd yn canolbwyntio’n fawr ar y dyfodol a chodi proffil TKB, wedi’i wasgu fel ag y mae rhwng dwy dref, Y Rhyl a Phensarn/Abergele, sydd efallai wedi cael mwy o sylw.


TKBVOICE Towyn & Kinmel Bay

Mae ein cardiau post â phwrpas yn llawer mwy nag ymgyrch gymunedol, neu fenter codi proffil.


Mae'r hyn rydych yn ei sgwennu arnyn nhw'n llywio'n uniongyrchol ein proses ymgynghori cymunedol a'r adroddiad rydyn ni'n ei sgwennu gyda'ch cyfranogiad chi. Mae’n fath o gyrchu torfol gan y bydd eich adborth yn llywio ein proses o gasglu gwybodaeth yn uniongyrchol ac yn helpu i ddatblygu cyfeiriad ein cynllun lle.

Mae gynnon ni rai canlyniadau ciplun yn barod, diolch i bobl sy'n gadael ein cardiau post yn y Ganolfan Adnoddau Cymunedol, un o nifer o hybiau gwybodaeth cymunedol yn yr ardal a'r cyffiniau.

Fel arolwg barn sy'n nodi tymheredd neu guriad calon y gymuned, maen nhw'n rhoi cipolwg cynnar i ni gan bobl sy'n byw ym Mae Cinmel.




Dyma ragflas.

Dywedwch wrthon ni beth rydych chi'n ei garu am TKB

  • Mwynderau lleol

  • Lle dymunol i fod

  • Lleoliad dymunol iawn gan fod gennym fynediad i lwybr yr arfordir a hefyd lled wledig

  • Rydym wrth ein bodd bod Bae Cinmel ar wahân i Dywyn ac fe ddylid ei gydnabod felly (un fu'n byw ym Mae Cinmel ers amser maith)

  • Parc chwarae gorau am filltiroedd! (llyfrgell)

  • Y traeth a'r ffaith eu bod wedi clirio’r tywod ar y prom yr wythnos hon a’r gaeaf hwn

  • Y cennin pedr yn St. Asaph Ave

  • Y parc sglefrio

  • Cymdeithasu, cerdded, garddio, pêl-droed, criced, gwrando ar gerddoriaeth


Sut allwn ni ei wella?


  • Mynd i'r afael â phroblem sbwriel

  • Gwella'r ffens dros y bont

  • Lledu ac ymestyn y llwybr trwy Barc Clwyd

  • Maint y traffig (yn enwedig St Asaph Ave)

  • Gwneud mwy o ddefnydd o lwybrau troed parod a’u hanes – e.e. gwely trac y lein Rhyl-Dinbych a hefyd y lein yn wreiddiol i wersyll Cinmel a’i gyswllt â'r Rhyfel Mawr

  • Rhoi arwydd i ddweud bod pobl yn cyrraedd Bae Cinmel o gyfeiriad Towyn a rhoi arwydd Towyn yn ôl lle dylai fod!

  • Gosod arwyddion – ‘Peidiwch â bwydo’r gwylanod’ – ymosodwyd arnaf ddwywaith y llynedd ac roedd fy mhen yn gwaedu

  • Biniau baw cŵn ar ochr llwybr y bont i St Asaph Ave

  • Angen bin arall yn y parc chwarae (pen y llyfrgell)


Mae’r arolwg ciplun hwn o drigolion Bae Cinmel yn dangos bod pobl yn ymfalchïo yn y lle; yn gallu nodi'n glir y pethau maen nhw'n eu caru, a bod ganddyn nhw hefyd awgrymiadau realistig, ymarferol ac adeiladol ar gyfer sut i'w wella. Mae yna rai enillion cyflym hawdd yn y rhestr hon, fel arwyddion, ac adrodd stori - hanes - y lle.

Os nad ydych wedi llenwi’ch cerdyn post eto, gwnewch hynny a galwch heibio un o’r pwyntiau Gwybodaeth Cymunedol yn Nhywyn a Bae Cinmel a’r cyffiniau. Mae poster TKBVOICE, cardiau post a thaflenni, a blychau post TKBVOICE wedi'u haddurno'n llachar o amgylch y lle. Postiwch eich cerdyn post yno neu os gwelwch gerdyn post mewn lleoliad yna gwnewch nodyn o'r hyn sydd ar eich meddwl a'i roi yn y blwch post.


Bydd ein blog nesaf am gardiau post gyda phwrpas yn canolbwyntio ar adborth cynnar gan bobl leol yn Nhowyn.

Ac yna draw atoch chi. Cwblhewch ein cerdyn post #LoveTKB ar-lein a byddwn yn ailgyhoeddi eich sylwadau (yn ddienw), wrth i'r sylwadau ddod i mewn.


Os oes gennych lawer mwy i'w ddweud nag y bydd cerdyn post yn ei ganiatáu yna dewch i rannu eich barn, ac ymunwch â'r sgwrs ar ddydd Gwener, 1af ac 2ail o Ebrill yn y pedwar lleoliad lle bydd Tîm TKBVOICE yn ymddangos.


Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich cardiau post i'r Pwyntiau Gwybodaeth Cymunedol ydy Ebrill 15fed er mwyn inni allu dechrau dadansoddi'r adborth.

Gallwch lenwi'r cerdyn post ar-lein tan Ebrill 25ain.


Unwaith y byddwn wedi casglu eich barn, bydd y rhain yn helpu i lunio’r adroddiad rydyn ni'n ei sgwennu ar y cyd, yn arwain trafodaethau yng nghyfarfodydd y Bartneriaeth Gymunedol a byddwn yn mynd yn ôl allan i ymgynghori â chi ym mis Mai ar ein Hadroddiad Cynllun Lle.


Rhannwch eich sylwadau!

Bydd eich cerdyn post gyda phwrpas yn llywio dyfodol y Dref a Bae Cinmel er gwell.
3 views0 comments
bottom of page